Cyn i chi wneud cais
1. Gwylio’r gweminar am Gronfa’r DU.
2. Gwirio bod eich syniad yn bodloni’r meini prawf ariannu yn ein canllawiau.
Ymgeisio Ar-lein
Ymgeisio Ar-lein Parhau cais ar-lein
Yn y ffurflen gais byddwn yn gofyn i chi:
- beth hoffech ei wneud a phamsut mae eich syniad yn bodloni ein meini prawf ariannuyr
- hyn yr ydych yn gobeithio ei ddysgu
- pha effaith y bydd eich dysgu yn ei chael.
Os yw’n anodd neu’n amhosibl i chi ymgeisio ar-lein
Gallwn ddarparu ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad, megis:
- fersiwn Hawdd ei Ddarllen o'r ffurflen gais a'r canllawiaufersiwn PDF
- ffurflen gaisrhannu fideo yn disgrifio eich syniad am brosiect
- yn hytrach na'i ddisgrifio mewn geiriaufersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r ffurflen gais a'r canllawiau.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi ymgeisio
- Byddwn yn asesu eich cais - mae galw mawr am gyllid, felly dim ond y ceisiadau sy’n bodloni ein meini prawf cryfaf y gallwn eu derbyn ar gyfer y cam nesaf.
- Byddwn yn dweud wrthych os ydych wedi cyrraedd y cam terfynol - fel arfer o fewn deg wythnos.
- Byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect, gan gynnwys eich cyllideb os cewch eich gwahodd i'r cam terfynolByddwn ni’n gwneud penderfyniad terfynol – bydd ein panel yn ystyried eich cais
- Os yw eich cais yn llwyddiannus – byddwn yn cysylltu â chi gyda'r newyddion da!
Dyma beth sy'n digwydd pan fydd grant yn cael ei ddyfarnu i chi.Byddwn hefyd yn trafod sut y gallwn eich helpu i:
- ddathlu a hyrwyddo eich cyllidrhannu
- eich dysgu ag eraill gan gynnwys sefydliadau sydd wedi derbyn grantiau gennym ni neu sy’n ymgeisio –byddwn yn eich cefnogi i wneud hyn.
Dim ond swm cyfyngedig o gyllid sydd gennym i’w ddyfarnu
Rydym ni’n derbyn llawer o geisiadau, ac mae nifer ohonynt ar gyfer prosiectau gwerth chweil iawn. Mae hyn yn golygu bod angen i ni wneud penderfyniadau anodd o ran pa brosiectau y gallwn eu hariannu, wrth ddarllen yr holl geisiadau yr ydym wedi’u derbyn. Felly yn aml, mae llawer o brosiectau na allwn eu hariannu, hyd yn oed y rhai da.