Y prosiectau rydym yn eu hariannu
Pawb a’i Le: Grantiau maint canolig sy'n cynnig ariannu ar gyfer prosiectau lle mae pobl a chymunedau'n gweithio ar y cyd a defnyddio eu cryfderau i gael effaith gadarnhaol ar y pethau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw.
Hoffem ariannu prosiectau sy’n:
- cefnogi sefydliadau i addasu neu amrywio er mwyn ymateb i heriau newydd ac yn y dyfodol
- cefnogi cymunedau a sefydliadau i fod yn fwy gwydn i’w helpu i ymateb yn well i’r argyfwng costau byw parhaus ac unrhyw argyfwng yn y dyfodol.
Rhaid i geisiadau llwyddiannus fod:
Cynnwys eich cymuned
Credwn fod pobl yn deall yr hyn sydd ei angen yn eu cymunedau yn well na neb. Felly mae'n bwysig i ni eich bod yn cynnwys eich cymuned yn y gwaith o gynllunio, datblygu a chyflwyno'r gweithgareddau rydych yn eu cynllunio.
Efallai y byddwch am ofyn i chi'ch hun:
- Ydw i wedi siarad â'r bobl yn fy nghymuned?
- A yw'r bobl yn fy nghymuned wedi dweud wrthyf beth sydd ei angen arnynt a beth sy'n bwysig iddynt?
- Ydw i wedi gwrando arnyn nhw ac wedi defnyddio'r hyn maen nhw wedi'i ddweud i greu fy mhrosiect?
Seiliedig ar gryfder
Hoffem gefnogi pobl a chymunedau i adeiladu ar y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd ganddynt eisoes, i wneud y newidiadau y maent eu eisiau.
Efallai y byddwch am ofyn i chi'ch hun:
- Beth sydd eisoes yn gweithio yn fy nghymuned?
- Sut bydd fy mhrosiect yn ychwanegu at y pethau cadarnhaol hyn sydd eisoes yn gweithio?
- Sut bydd fy mhrosiect yn gwneud y gorau o unrhyw adnoddau sydd eisoes yn helpu fy nghymuned?
Rydym wedi datblygu StrengthChecker, offeryn am ddim i helpu sefydliadau'r trydydd sector i flaenoriaethu'r cryfderau sydd eu hangen arnynt i adeiladu arnynt fwyaf ar gyfer eu datblygiad a'u twf. Defnyddiwch yr offeryn hwn i helpu i nodi unrhyw gostau datblygu sefydliadol
Cysylltiedig
Rydym am wybod bod gennych ddealltwriaeth dda o weithgareddau a gwasanaethau eraill yn eich cymuned. Hoffem weld sut y byddwch yn cyd-fynd â’r rhain. Felly gallwch ychwanegu gwerth at yr hyn sydd yno'n barod.
Efallai y byddwch am ofyn i chi'ch hun:
- Ydw i wedi siarad â grwpiau eraill yn yr ardal sy'n gwneud rhywbeth tebyg i'm prosiect?
- Ydw i wedi meddwl sut y gallwn ni i gyd helpu ein gilydd?
Cyflwyno eich prosiect yn Gymraeg
Pan fyddwch yn derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd angen i chi ei ddarparu yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg a sicrhau fod eich holl weithgareddau ar gael i’ch cymuned yn y ddwy iaith. Darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog am fwy o wybodaeth neu gallwch gysylltu a’r Tîm Cymraeg yn cymorth.cymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk
Cofiwch gynnwys costau gweithredu eich prosiect yn ddwyieithog, megis costau cyfieithu, yn eich cyllideb.
Mae cymorth ar gael i chi hefyd gan sefydliadau allanol:
Tim Hybu, Comisiynydd y Gymraeg: Mae Tîm Hybu, Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi elusennau a busnesau i gynllunio eu gwasanaethau Cymraeg. Cysylltwch â nhw hybu@cyg-wlc.cymru i glywed mwy am eu: Cymorth un i un yn seiliedig ar anghenion; Cyfarfodydd rhwydweithiau elusennau a busnesau rheolaidd er mwyn rhannu profiadau ac arfer da; Canllawiau syml ar bob agwedd o ddatblygu gwasanaethau Cymraeg; System ar lein er mwyn hunan asesu eich gwasanaethau; Gwasanaeth prawf ddarllen - hyd at 1,000 o eiriau’r flwyddyn
Helo Blod: Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfeillgar a chyflym rhad ac am ddim sydd yma i helpu busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda hyder. Cysylltwch gyda Helo Blod heddiw ar 0300 25 88 88 neu e-bost heloblod@llyw.cymru i glywed mwy.
Beth allwch chi wario'r arian arno?
Gall Pawb a'i Le ariannu costau cyfalaf a refeniw hyd at £500,000, fel cyfarpar, costau staff a gwaith adnewyddu. gallwn ariannu prosiectau am hyd am bum mlynedd. Ni allwn ariannu:
- alcohol
- gweithgareddau gwneud elw/codi arian
- TAW adferadwy
- gweithgareddau statudol
- gweithgareddau grefyddol
- talu rhywun arall i ysgrifennu'ch cais.